Cipolwg cyntaf ar Gynllun Byw’n Annibynnol newydd Gwynedd!
Mae’r gwaith o ailddatblygu Hen Bentre Pwylaidd (neu Pentref Pwylaidd Penrhos), yng nghanol Gwynedd, y bu aros mawr amdano, wedi cyrraedd carreg filltir bwysig, gan fod cyfle bellach i ymweld â’r cartref arddangos yn y cynllun byw’n annibynnol. Cyn bo hir bydd Cam Un y datblygiad yn gartref i 42 o bobl dros 55 oed; ac mae disgwyl i’r gwaith ddod i ben erbyn y gaeaf 2026.