Am y tro cyntaf ers blynyddoedd, bydd canol tref Llandudno yn elwa ar gartrefi fforddiadwy newydd y mae galw mawr amdanynt. Adeiladwyd datblygiad newydd ClwydAlyn i fynd i’r afael â’r prinder o dai fforddiadwy sydd ar gael i bobl leol. Bydd y broses o drosglwyddo’r 77 o gartrefi newydd yn digwydd ar ddiwedd mis Mehefin.
Cartrefi fforddiadwy o ansawdd yw sylfaen bywydau pobl, a nod ClwydAlyn yw darparu cartrefi diogel, cynnes, sy’n effeithlon o ran ynni i gefnogi iechyd a llesiant eu preswylwyr.
Mae’r cartrefi newydd hyn, sy’n cael eu hadeiladu gan K&C Construction ar ran ClwydAlyn ac mewn partneriaeth â Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a Llywodraeth Cymru yn rhan o gynllun sy’n werth £12.7 miliwn. Mae’r 77 o gartrefi yn cynnwys cartrefi un, dwy, tair a phedair ystafell wely i deuluoedd, a chartrefi i bobl dros 55 oed. Byddant yn gartrefi am oes, sy’n golygu y bydd yn hawdd eu haddasu i anghenion y preswylwyr wrth iddynt newid – gan eu helpu i fyw’n annibynnol am gyfnod hwy.
Bydd y datblygiad hwn yn darparu 100% o gartrefi fforddiadwy i bobl leol, mewn ardal lle nodwyd yn annibynnol bod prinder cartrefi o’r fath.
Mae’r cartrefi newydd yn hynod o effeithlon o ran ynni gan eu bod yn cael eu hadeiladu gan ddefnyddio technolegau gwyrddach a dyluniadau arloesol. Nod ClwydAlyn yw helpu preswylwyr i fynd i’r afael â chostau byw sy’n dal i godi tra’n lleihau’r effaith mae cartrefi sy’n llai effeithlon o ran ynni yn ei chael ar iechyd a llesiant pobl. Bydd pob cartref yn elw ar y nodweddion canlynol:
- Pympiau gwres ffynhonnell aer
- Silindrau Dŵr Poeth i’r Fflatiau
- Cartrefi wedi’u lleoli i wneud y mwyaf o wres yr haul a golau naturiol
- Cyfleusterau gwefru car trydan
- Wedi’u hadeiladu gyda waliau ceudod traddodiadol a lefelau inswleiddio sy’n bodloni safonau Rheoliadau Adeiladu.
- Canfod defnyddiau gan gynhyrchwyr a chyflenwyr lleol, gan gadw’r ôl-troed carbon yn isel.
“Rydyn ni’n dechrau ar y gwaith tir ar hyn o bryd ac yn gobeithio trosglwyddo’r cartrefi fesul cam rhwng diwedd mis Mehefin a diwedd Gorffennaf.”
Bydd y cartrefi newydd hyn yn bodloni ac yn mynd tu hwnt i’r safonau rheoleiddiol presennol: Safon Ansawdd Tai Cymru Llywodraeth Cymru, Gofynion Ansawdd Datblygu Llywodraeth Cymru a safonau Tai a Lleoedd Hardd Llywodraeth Cymru.
I gael rhagor o wybodaeth am y datblygiad, ewch i: Cartrefi newydd i Deuluoedd yn Builder Street, Llandudno – Clwydalyn