Chwa o Awyr Iach: Ystafell Llesiant Newydd yn yr Awyr Agored i Breswylwyr Cartref Gofal yn Rhuthun!
Mae ystafell llesiant awyr agored newydd wedi cael ei chreu yng Nghartref Gofal Llys Marchan, Rhuthun, i wella iechyd meddwl a chorfforol preswylwyr a staff a chynnig man tawel a chreadigol i ymlacio, myfyrio a chysylltu ag eraill.