ClwydAlyn yn ennill Gwobr Genedlaethol Arfer Da TPAS Cymru
Mae cymdeithas dai ClwydAlyn sydd â’i bencadlys yn sir Ddinbych wedi ennill un o wobrau pwysig y diwydiant, sef ‘Cynnwys Tenantiaid wrth Gynllunio neu Adolygu Gwasanaethau’ yng ngwobrau cenedlaethol Arfer Da TPAS Cymru. Enillodd y wobr am gyflwyno dull gweithredu arloesol i gyflymu gwaith cynnal yn nhai preswylwyr.