Mae ClwydAlyn wedi ymuno â Chartrefi Cymunedol Cymru a Cymorth Cymru yn eu galwad ar Lywodraeth Cymru i gynyddu’r Grant Cymorth Tai yn ei chyllideb ar gyfer 2024/25.
Y Grant Cymorth Tai yw prif ffrwd cyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer atal digartrefedd a chefnogi byw’n annibynnol. Yn flynyddol, mae’r gwasanaethau y mae’r grant yn eu hariannu yn helpu mwy na 60,000 o bobl i osgoi digartrefedd, dianc rhag camdriniaeth, byw yn eu cartrefi eu hunain a ffynnu yn eu cymunedau.
Mae ClwydAlyn yn rhedeg 14 o gynlluniau byw â chefnogaeth ar draws Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam, ynghyd â Chymorth i Ferched ClwydAlyn lloches cam-drin domestig. Rhwng 1 Ebrill 22 a 31 Mawrth 23, fe wnaeth ei wasanaethau byw â chefnogaeth helpu 1229 o breswylwyr gan gynnwys 142 o blant. Dyluniwyd cynlluniau byw â chefnogaeth a gwasanaethau ClwydAlyn i fodloni anghenion pobl sydd angen cymorth ychwanegol, fel pobl â phroblemau iechyd meddwl, problemau caethiwed i gyffuriau/sylweddau, pobl mewn perygl o ddioddef trais domestig neu rieni yn eu harddegau. Mae rhai cynlluniau a gwasanaethau wedi eu dylunio i bobl sydd angen cefnogaeth i fyw’n annibynnol. Mae rhai eraill yn rhai tymor byr ac wedi eu dylunio i helpu pobl i gael y sgiliau emosiynol ac ymarferol angenrheidiol i symud ymlaen i dai mwy prif-ffrwd.
Yn ystod 22/23 fe wnaeth gwasanaethau byw â chefnogaeth ClwydAlyn helpu:
- 75 o breswylwyr byw â chefnogaeth i symud i gartref parhaol
- aeth 19 i waith llawn amser
- aeth 27 ar gwrs neu brentisiaeth
- ymunodd 34 â chwrs coleg neu brifysgol
Buom yn siarad hefo Neil sy’n byw yn un o’n gwasanaethau byw â chefnogaeth yn y Fflint a gofyn rhai cwestiynau iddo am ei gyfnod hefo ni:
Roeddwn yn teimlo’n ofnus a phryderus, am nad oeddwn yn gwybod beth oedd yn digwydd i mi o ran byw hefo fy mam a fy nhad ar hyd fy oes, heblaw am ddwy flynedd yn fras.
Helpu i edrych ar ôl fy hun, dysgu coginio, cadw fy hun yn ddiogel, creu perthynas newydd a pha mor unig y gall y byd fod ar eich pen eich hun heb ffrindiau.
Maen nhw’n siarad hefo fi trwy’r amser yn gofyn a ydwi’n iawn, yn fy mharchu, roeddwn yn mynd yn bryderus iawn mewn sefyllfaoedd o ddydd i ddydd, mae’r tîm wedi fy annog i ymwneud ag asiantaethau eraill ac yn parchu fy marn a’m dymuniadau bob amser.
Cyfarfod pobl newydd dda. Bod mewn amgylchedd cyfeillgar a chael profiad a hyder.
Mae’n anferth oherwydd y lle gwaethaf yn y byd fyddai bod yn ddigartref heb unlle i fynd fel yr wyf fi wedi ei brofi.
Cael fy lle fy hun a dim ond gadael i’r bobl dwi am iddynt gael dod i mewn iddo.
Bod angen mawr am fannau fel Greenbank Villas i gadw pobl oddi ar y strydoedd ac yn ddiogel.
Mae’r ymchwil diweddaraf ar ddigartrefedd a gwasanaethau cefnogi tai yn dangos bod y diffyg cyllid presennol yn cael effaith negyddol ar ddarparu gwasanaeth, ac nad yw’r gwasanaethau bellach yn gallu gwrthsefyll toriadau. Yn y pen draw, mae hyn yn golygu bod risg wirioneddol y bydd y gwasanaeth yn chwalu os na fydd cynnydd yn y Grant Cymorth Tai.
Canfu’r ymchwil na fu unrhyw gynnydd yn y cyllid:
- Mae 77% o’r darparwyr cymorth yn debygol o leihau eu gwasanaethau;
- Mae 40% yn debygol o roi contractau sydd ganddynt yn ôl;
- Nid yw 67% yn debygol o geisio am gontractau newydd neu ail-dendro am gontract.
Wrth i Lywodraeth Cymru wneud penderfyniadau allweddol am ei chyllideb ar gyfer 2024/25, mae’r neges gan ein sector yn glir: mae ar wasanaethau wirioneddol angen hwb o gyllid i sicrhau bod y degau o filoedd o bobl sy’n dibynnu ar wasanaethau cymorth tai hanfodol yn gallu cael yr help allweddol y mae arnynt ei angen.