Skip to content
19 Cartrefi
Tŷ Nos, Ffordd Holt, Wrecsam, LL13 8NE
Ar y gweill

Cwblhau – Gaeaf 2024

Datblygiad o 19 o fflatiau un ystafell wely, effeithlon o ran ynni, fforddiadwy gydag ardal swyddfa ar gyfer rheoli’r cartrefi. Yn darparu llety dros dro i bobl mewn angen, gan gefnogi a’u helpu i gynllunio ar gyfer y dyfodol; mae cartref yn agor y drws ar gyfer iechyd, addysg a gwaith.

Mae’r cartrefi hyn wedi cael eu hadeiladu yn ôl safonau effeithlonrwydd ynni uchel, yn ôl safonau ‘Beattie Passivhaus’, gyda strwythur ffrâm bren gan Creu Menter a lefel uchel o inswleiddiad. Gan greu fflatiau effeithlon carbon isel fydd yn sicrhau bod angen yr ynni lleiaf posibl i gadw’r tai yn gynnes, gan leihau costau ynni, gan ddarparu ffordd o fyw fwy gwyrdd a glanach.

Wedi eu hadeiladu gan Gareth Morris Construction (GMC) ar ran ClwydAlyn mewn partneriaeth â Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, Llywodraeth Cymru a Creu Menter.

Mae 19 o gartrefi ar y safle

  • 19 x fflat 1 ystafell wely
  • 1 x Swyddfa

Manteision y cartrefi:


Effeithlon o ran ynni
Wedi eu hadeiladu i’r safonau uchaf o ran effeithlonrwydd ynni, gan ddefnyddio’r technolegau a deunyddiau diweddaraf, i sicrhau bod y cartref yn gost effeithiol i’w rhedeg.

Y newyddion diweddaraf am y datblygiad:

Gwanwyn 2023
Darllenwch gylchlythyr

Y newyddion diweddaraf a datblygiadau ar gyfer Tŷ Nos:

Ty Nos, Wrexham
Prosiect tai newydd i daclo digartrefedd yn dechrau
Nododd seremoni torri’r dywarchen ddechrau’r gwaith ar brosiect £4.5m, a fydd yn gweld 19 o fflatiau’n cael eu hadeiladu i roi cefnogaeth i’r rhai sy’n profi digartrefedd yn ardal Wrecsam.
Read more
Ty Nos artist impression

Am gael byw yma?

Er mwyn ymgeisio i fyw yn Nhŷ Nos, bydd angen i chi ymgeisio trwy Gyngor Sir Wrecsam. Dilynwch y ddolen isod i ymgeisio.
Ymgeisiwch Rŵan