Mae chwech o breswylwyr Llys Emlyn Williams, ein cynllun byw â chymorth yn Nhreffynnon, wedi cwblhau eu cymhwyster Lefel 1 Snow Camp ar ôl cymryd rhan mewn rhaglen ddeuddydd o hyd yn The Snow Centre, Manceinion.
Diolch i nawdd gan Gyngor Sir y Fflint, roedd rhaglen Snow Camp yn rhoi cyfle i’r preswylwyr gael profiad ymarferol o eirafyrddio a sgïo tra’n gweithio tuag at ennill cymwysterau sy’n cael eu cydnabod gan y diwydiant. Gall y rhaglen arwain at gymhwyster Lefel 6, gan gynnig pob math o gyfleoedd cyffrous i’r bobl ifanc ddilyn gyrfa fel hyfforddwyr sgïo neu eirafyrddio.
Cymerodd y preswylwyr Owen, Lukas, Daniel, Amy, Harry a Leo ran yn y cwrs. Gwnaethant nid yn unig ddysgu sgiliau newydd ar y llethrau, roedd cyfle iddynt hefyd gymryd rhan mewn sesiynau datblygiad personol a oedd yn canolbwyntio ar hyder, gwydnwch a hunangred gan edrych ar themâu “Rwyf am wneud, Rwyf yn gwneud, Rwy’n medru gwneud.”
Llwyddodd y chwech i ennill eu cymhwyster Lefel 1, ac mae Daniel ac Owen eisoes wedi cofrestru ar gyfer Lefel 2.
Dangosodd y daith sut gall rhoi cyfle i’r preswylwyr gael profiadau newydd eu helpu i ddatblygu hyder, annibyniaeth a dyheadau i’r dyfodol. Roedd y staff wrth eu bodd i weld y preswylwyr yn annog ei gilydd yn ystod y deuddydd ac yn dathlu cyflawniadau ei gilydd.
Llongyfarchiadau i Owen, Lukas, Daniel, Amy, Harry a Leo am gwblhau eu cymhwyster Lefel 1, a phob lwc i Owen a Daniel wrth iddynt barhau â’u taith gyda Snow Camp.
I gael rhagor o wybodaeth am Lety Byw â Chymorth ClwydAlyn, ewch i: Byw â Chymorth – Clwydalyn
I gael rhagor o wybodaeth am The Snow Centre, Manceinion, ewch i: https://thesnowcentre.com/manchester