Pobl Ifanc yn Nhreffynnon yn elwa ar gyfleoedd i feithrin eu sgiliau
Mae grŵp o bobl ifanc o Dreffynnon wedi elwa ar sesiwn sgiliau o’r enw Y Penderfynwyr / The Decider, strategaeth ymddygiad gwybyddol ar sail tystiolaeth sy’n helpu unigolion i reoli emosiynau, lleihau trallod, a gwneud penderfyniadau cadarnhaol. Cyflwynwyd y sesiwn galw heibio gan Skills + er mwyn helpu oedolion ifanc i reoli emosiynau, gwella sgiliau rhyngbersonol ac ymwybyddiaeth ofalgar a goroesi argyfwng.