Cartref Gofal Dementia yn agor Ystafell Synhwyraidd Newydd
Mae preswylwyr sy’n byw gyda dementia yng Nghartref Gofal Llys y Waun, Y Waun ger Wrecsam, wedi elwa ar ystafell synhwyraidd groesawgar, braf. Agorodd Ystafell Synhwyraidd y cartref ar ddiwedd mis Medi, diolch i arian grant cymunedol The Cadbury Foundation. Mae’r ystafell yn cynnig lleoliad braf i breswylwyr a staff ymlacio, creu cysylltiadau, defnyddio eu synhwyrau a mwynhau’r holl adnoddau sydd yno.