Graddedigion Project Search yn dangos pa mor bwysig yw Cyflogaeth Gynhwysol
Yn ddiweddar, cafodd wyth o bobl ifanc o ogledd Cymru gyfle i ddathlu carreg filltir bersonol wrth iddynt raddio’n llwyddiannus o raglen interniaeth cyflogaeth gynhwysol 12 mis o hyd. Derbyniodd y graddedigion eu tystysgrifau mewn seremoni raddio arbennig yn Llys Raddington, Y Fflint.