Skip to content
66 Cartrefi
Ffordd Hafren, Y Trallwng, Powys, SY21 7AS
Ar y gweill

Dyddiad cwblhau arfaethedig: Gwanwyn 2024

Datblygiad 66 o fflatiau un a dwy ystafell wely hunangynhwysol o safon uchel, i unigolion 60 oed a hŷn sydd ag angen gofal neu gefnogaeth wedi ei asesu. Mae Neuadd Maldwyn yn cael ei adeiladu gan Anwyl Partnerships ar ran ClwydAlyn ac mewn partneriaeth â Chyngor Sir Powys, Bwrdd Iechyd Addysgu Powys a Llywodraeth Cymru.

Mae Neuadd Maldwyn yn adeilad rhestredig Gradd II ac fe’i defnyddiwyd gan Gyngor Sir Powys hyd 2021 a chyn hynny roedd yn brif swyddfa i Gyngor Dosbarth a Sir Drefaldwyn. Mae’r adeilad yn dyddio yn ôl i ddechrau’r 20fed ganrif a bydd ei addasu yn fflatiau yn cael ei gyflawni mewn modd llawn cydymdeimlad gan gadw ei gyfoeth o nodweddion gwreiddiol.

Bydd y cynllun yn cynnwys cyfleusterau cymunedol ar gyfer digwyddiadau a gweithgareddau, bwyty, man parcio ar y safle ac ardaloedd wedi eu tirlunio. Rhoddir blaenoriaeth i breswylwyr ardal Powys neu sydd â chysylltiadau clos ag ardal Powys.

Am ragor o wybodaeth ewch i: clwydalyn.co.uk/neuadd-maldwyn

 

Mae’r safle yn cynnwys: 66 o gartrefi

  • 52 x Fflat 1 Ystafell Wely
  • 14 x Fflat 2 Ystafell Wely

Manteision y cartrefi


Byw’n annibynnol gyda gofal a chefnogaeth
Dewch i fyw’n annibynnol yn eich fflat eich hun, gan wybod petaech ei angen, y bydd help a chefnogaeth ar gael ar drothwy eich drws 24 awr y dydd.
Cefnogaeth gyfeillgar
Bydd Rheolwr Cynllun ar y safle i’ch helpu i reoli eich tenantiaeth.
Ymdeimlad o gymuned gan lunio cyfeillgarwch
Mae ein cymunedau yn ein cynlluniau byw’n annibynnol yn creu cyfle i fod yn gymdeithasol a llunio cyfeillgarwch newydd.

Y newyddion diweddaraf am y datblygiad:

Hydref 2022
Darllenwch gylchlythyr
Haf 2023
Darllenwch gylchlythyr

Y newyddion diweddaraf a datblygiadau ar gyfer Neuadd Maldwyn:

Neuadd Maldwyn, Welshpool
Cefnogi prosiect gofal ychwanegol yn y Trallwng
Mae Cyngor Sir Powys wedi cefnogi cynlluniau i greu llety ‘Gofal Ychwanegol’ yn Y Trallwng gan fuddsoddi dros £10m yn y dref.
Darllenwch fwy
3D image, front of Neuadd Maldwyn
Y gwaith ar fin dechrau ar gynllun gofal ychwanegol yn y Trallwng
Mae Tai ClwydAlyn a Chyngor Sir Powys yn gweithio ar ddarparu cynllun gofal ychwanegol arloesol ar hen safle swyddfeydd y cyngor yng nghanol tref y Trallwng.
Darllenwch fwy
Neuadd Maldwyn
Dyluniadau mewnol cyntaf ar gyfer cynllun byw’n annibynnol yn cael eu datgelu
Mae’r dyluniadau cyntaf o du mewn datblygiad i drawsnewid y cyn swyddfeydd yn Neuadd Maldwyn yn y Trallwng yn gynllun byw’n annibynnol i bobl hŷn wedi cael eu datgelu.
Darllenwch fwy

Fideos

Hydref 2022
Gaeaf 2023
Gwanwyn 2023
Haf 2023
Hydref - 2023
Ionawr 2024
Fflatiau arddangos
Neuadd Maldwyn

Am gael byw yma?

Er mwyn ymgeisio i fyw yn Neuadd Maldwyn, bydd angen i chi lenwi ffurflen gais. Dilynwch y ddolen isod i ymgeisio.
Ymgeisiwch Rŵan