Cartref Nyrsio yn Wrecsam yn Cael Canmoliaeth gan AGC am Ofal “Personol, Diogel a Chadarnhaol”
Mewn adroddiad newydd a gyhoeddwyd gan Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC), canmolwyd Cartref Gofal Llys y Waun yn y Waun ger Wrecsam am ei “amgylchedd cartrefol a chyfforddus”, “mannau eithriadol lle gall pobl gael mynediad yn ddiogel ac yn rhydd at natur”, “llywodraethiant cadarn” a, “hyfforddiant trwyadl a thîm staff medrus sy’n cael ei werthfawrogi”.