Tag: new development
Cadw Treftadaeth a Gwerth Cymdeithasol wrth galon Datblygiad Pentref Pwylaidd Penrhos
Mae ClwydAlyn, darparwr tai cymdeithasol o Gymru, wedi cadarnhau ei fod wedi llofnodi contractau gyda Chwmni Williams Homes (Y Bala), i adeiladu 107 o gartrefi am oes, effeithlon o ran ynni, ar safle Pentref Pwylaidd Penrhos ym Mhen Llŷn, Gwynedd.
Rhanddeiliaid yn mwynhau ymweld â Chartrefi Newydd Fforddiadwy Glannau Dyfrdwy
Bu rhanddeiliad, gan gynnwys Marj Cooper, Rheolwr Strategaeth Dai Cyngor Sir y Fflint, yn ymweld â datblygiad ClwydAlyn, Northern Gateway, yr wythnos ddiwethaf. Trefnwyd yr ymweliad i ddathlu cwblhau 100 o gartrefi newydd fforddiadwy, effeithlon o ran ynni, i deuluoedd lleol.
Cartrefi newydd ym Benllech yn helpu i fynd i’r afael â phrinder tai rhent fforddiadwy ar Ynys Môn
Mae gwaith wedi dechrau ar ddatblygiad gwerth £6.5 miliwn gan ClwydAlyn yng Nghraig y Don, Benllech, a fydd yn darparu 17 o gartrefi newydd, gyda rhenti fforddiadwy.
Seremoni Torri’r Dywarchen yn nodi dechrau’r gwaith o adeiladu Tai Fforddiadwy newydd yng Nghaergybi
Fe wnaeth y darparwr tai cymdeithasol ClwydAlyn groesawu AS Plaid Cymru Ynys Môn, Llinos Medi, a Chynghorydd Sir Ynys Môn Robin Wyn Williams i seremoni torri’r dywarchen ar ddatblygiad newydd o 54 o gartrefi newydd o ansawdd uchel, effeithlon o ran ynni, yng Nghae Bothan, Ynys Môn.
Cartrefi Newydd ym Mynydd Isa yn barod i’r Preswylwyr
Mae preswylwyr wedi dechrau ymgartrefu yn y datblygiad o 56 o gartrefi fforddiadwy, effeithlon o ran ynni ym Mynydd Isa, Sir y Fflint.
Preswylwyr ar ben eu digon wrth symud i’r Fflatiau Byw’n annibynnol newydd yn y Trallwng
Preswylwyr wrth eu boddau: Teuluoedd yn symud i mewn i’w Cartrefi Newydd ym Maes Deudraeth, Eryri
Cafodd preswylwyr eu croesawu i’w cartrefi newydd ym Maes Deudraeth, Penrhyndeudraeth yr wythnos hon. Mae’r cartrefi, sy’n cynnwys 41 o dai a fflatiau ynni-effeithlon wedi’u hadeiladu o fframiau pren, yn rhan o Raglen Datblygu Tai Fforddiadwy Gwynedd ac maent wedi’u datblygu gan ClwydAlyn a Grŵp Cynefin.
First Look Inside Welshpool’s New Independent Living Development
Cynlluniau i Ailddatblygu Pentref y Pwyliaid Penrhos yn dod yn eu blaenau
Mae’r darparwr tai cymdeithasol ClwydAlyn wedi cyhoeddi y bydd gwaith dymchwel yn dechrau yn fuan ym Mhentref y Pwyliaid Penrhos. Bydd gwaith ailddatblygu sylweddol ar y safle yn arwain at godi 107 o gartrefi newydd y mae galw mawr amdanynt, yn y pentref gwledig hwn yng Ngwynedd.